2019 Rhif (Cy. )

YMADAEL Â’R UNDEB EWROPEAIDD, CYMRU

TRAFNIDIAETH, CYMRU

Rheoliadau Mesur Teithio gan Ddysgwyr (Cymru) (Diwygio) (Ymadael â’r UE) 2019

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Mae’r Rheoliadau hyn wedi eu gwneud drwy arfer y pwerau a roddir gan baragraff 1(1) o Atodlen 2 i Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018 (p. 16) er mwyn ymdrin ag unrhyw fethiant yng nghyfraith yr UE a ddargedwir i weithredu’n effeithiol a diffygion eraill sy’n deillio o ymadawiad y Deyrnas Unedig â’r Undeb Ewropeaidd.

Mae Mesur Teithio gan Ddysgwyr (Cymru) 2008 yn ei gwneud yn ofynnol i wregysau diogelwch gael eu ffitio ar fysiau a ddefnyddir yn gludiant i ddysgwyr. Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio cyfeiriad at gyfraith yr Undeb Ewropeaidd mewn darpariaeth sy’n datgan nad yw’r gofyniad i ffitio gwregysau diogelwch yn effeithio ar unrhyw safon dechnegol a fyddai fel arall yn gymwys yn rhinwedd deddfiadau penodol.     

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, ystyriwyd nad oedd yn angenrheidiol cynnal asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn.


 

2019 Rhif (Cy. )

YMADAEL Â’R UNDEB EWROPEAIDD, CYMRU

TRAFNIDIAETH, CYMRU

Rheoliadau Mesur Teithio gan Ddysgwyr (Cymru) (Diwygio) (Ymadael â’r UE) 2019

Gofynion sifftio wedi eu bodloni                        ***

Gwnaed                                                                  ***

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru             ***

Yn dod i rym yn unol â rheoliad 1(2)                ***

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddir gan baragraff 1(1) o Atodlen 2 i Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018([1]), yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn.

Mae gofynion paragraff 4(2) o Atodlen 7 i’r Ddeddf honno (sy’n ymwneud â gweithdrefn graffu briodol Cynulliad Cenedlaethol Cymru ar gyfer y Rheoliadau hyn) wedi eu bodloni.

Enwi, cychwyn a chymhwyso

1.(1)(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Mesur Teithio gan Ddysgwyr (Cymru) (Diwygio) (Ymadael â’r UE) 2019.

(2) Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar y diwrnod ymadael.

(3) Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.

Diwygio Mesur Teithio gan Ddysgwyr (Cymru) 2008

2. Yn adran 14A(5) o Fesur Teithio gan Ddysgwyr (Cymru) 2008([2]), yn lle “unrhyw ofyniad yng nghyfraith yr Undeb Ewropeaidd sy’n uniongyrchol gymwysadwy” rhodder “unrhyw ofyniad yn neddfwriaeth uniongyrchol yr UE a ddargedwir”.

 

 

Enw

Gweinidog yr Economi a Thrafnidiaeth, un o Weinidogion Cymru

Dyddiad



([1])           2018 p. 16.              

([2])           2008 mccc 2; mewnosodwyd adran 14A gan adran 1 o Fesur Diogelwch ar Gludiant i Ddysgwyr (Cymru) 2011 (mccc 6).